Jonathan Davies
Wedi tirio pum cais mewn tair gêm, does dim syndod bod canolwr y Scarlets Jonathan Davies wedi cael ei ddewis ar gyfer y gêm brawf gyntaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Gyda’i gyd chwaraewr rhyngwladol Jamie Roberts allan o’r garfan oherwydd anaf, Davies fydd yn gwisgo crys rhif 12.

‘‘Rwy’n ddigon hapus i chwarae yn y safle yna.  Gyda’r cryfder yn y garfan yma, mae’n rhaid i ni weithio’n galed ac i wthio’n gilydd i gynnal y safon,’’ meddai Davies.

Ymysg y rheolwyr y mae cyn gapten y Llewod, Brian O’Driscoll wedi canmol chwarae Davies wrth chwarae wrth ei ochr yn erbyn y NSW Waratahs yr wythnos ddiwethaf.

‘‘Roedd e’n wych.  Roedd yn rhan o bopeth yr oeddwn yn ei wneud, heb amheuaeth, ef oedd  chwaraewr gorau’r noson,’’ meddai O’Driscoll.

‘‘Y peth da yw ei fod yn gwneud i mi, Manu ac eraill yn yr un sefyllfa sylweddoli mai dyma’r lefel sydd eisiau anelu ato, rhaid ei ganmol am hynny,’’ ychwanegodd O’Driscoll.

Yn ogystal â O’Driscoll, mae maswr Cymru, Rhys Priestland wedi canmol y canolwr o Fancyfelin.

‘‘Mae gan y chwaraewyr a’r rheolwyr llawer o barch tuag ato.  Mae’n mynnu cael y gorau allan o’r chwaraewyr sydd o’i gwmpas ar y cae,’’ meddai Priestland.