Nathan Cleverly
Mae hyrwyddwr Nathan Cleverly, Frank Warren wedi dweud bod enwau mawr y byd bocsio yn ofni’r Pencampwr WBO is-drwm.

Bydd Cleverly yn ceisio amddiffyn ei deitl am y chweched tro yn erbyn gwrthwynebydd sydd heb gael ei gyhoeddi eto ar yr 17 Awst.

Fe ddywedodd Frank Warren bod Carl Froch wedi tynnu nôl rhag ymladd  Cleverly.

‘‘Rwy’n gwybod yr hyn y mae Cleverly yn gallu ei wneud, ac mewn gwirionedd rwy’n credu bod y bocswyr eraill yn ymwybodol hefyd.  Dwi ddim yn credu bod Nathan yn derbyn yr holl glod y mae’n ei haeddu,’’ meddai Warren.

Er nad oes gwrthwynebydd wedi cael ei enwi eto ar gyfer gornest nesaf y Cymro, mae Warren ar hyn o bryd yn trafod gyda Sergey Kovalev o Rwsia.