Bydd Jon Davies yn dechrau i'r Llewod ddydd Sadwrn
Bydd wyth chwaraewr o Gymru’n dechrau’r gêm i’r Llewod wrth iddynt herio Awstralia ddydd Sadwrn

Mae Sam Warburton yn gapten ac yn dechrau yn safle’r blaenasgellwr agored.

Bydd Jonathan Davies yn dechrau yn y canol gyda’r Gwyddel Brian O’Driscoll ar ôl i Jamie Roberts gael ei anafu wythnos diwethaf.

Efallai mai’r dewis mwyaf annisgwyl yw’r Sais Tom Youngs fel bachwr yn hytrach na Richard Hibbard oedd yn ffefryn gyda’r arbenigwyr i fachu’r rhif 2. Mae’n rhaid i Hibbard fodlonni â lle ar y fainc.

Tîm y Llewod i herio Awstralia yn y prawf cyntaf:

Leigh Halfpenny (Cymru), Alex Cuthbert (Cymru), Brian O’Driscoll (Iwerddon), Jonathan Davies (Cymru), George North (Cymru), Jonathan Sexton (Iwerddon), Mike Phillips (Cymru); Alex Corbisiero (Lloegr), Tom Youngs (Lloegr), Adam Jones (Cymru), Alun Wyn Jones (Cymru), Paul O’Connell (Iwerddon), Tom Croft (Lloegr), Sam Warburton (Cymru,capten), Jamie Heaslip (Iwerddon)

Eilyddion: Richard Hibbard (Cymru), Mako Vunipola (Lloegr), Dan Cole (Lloegr), Geoff Parling (Lloegr), Dan Lydiate (Cymru), Ben Youngs (Lloegr), Owen Farrell (Lloegr), Sean Maitland (Yr Alban)