Un o gerfluniau John Hughes
Mae’r dyn a greodd grochenwaith y Groggs wedi marw yn 78 oed.

Bu farw John Hughes, o Bontypridd, wedi salwch hir.

Dechreuodd y cwmni yn ei sied 45 mlynedd yn ôl ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei gerfluniau cartŵn o chwaraewyr rygbi fel Gareth Edwards a Neil Jenkins yn ogystal ag arwyr lleol fel y canwr Tom Jones.

Cafodd MBE yn 2010 am ei wasanaethau i’r byd cerameg.

Dywedodd Simon Thomas AC o Blaid Cymru ar ei gyfrif Twitter: “Gren a nawr Groggs. Rhan o dirlun a lliw fy ieuenctid wedi mynd.”

Dywedodd clwb rygbi Pontypridd mewn datganiad ar eu gwefan ei fod yn “athrylith, yn ŵr bonheddig, yn gymeriad” a bydd colled fawr ar ei ôl.