George North
Mae George North yn holliach ar gyfer y prawf cyntaf rhwng y Llewod ac Awstralia yn Brisbane ddydd Sadwrn.

Cafodd yr asgellwr 21 oed anaf i linyn y gar ddydd Mawrth yn ystod yr ornest yn erbyn Combined Country XV.

Ond mae’r hyfforddwyr wedi dweud ei fod e’n barod i ddychwelyd.

Fe fydd tîm y Llewod ar gyfer dydd Sadwrn yn cael ei gyhoeddi fory.

Mae disgwyl i’r canolwr Jamie Roberts fethu’r gêm oherwydd anaf i linyn y gar.

Collodd y Llewod eu gêm ddiwethaf yr wythnos hon o 14-12 yn erbyn y Brumbies yn Canberra.

Ond mae is-hyfforddwr y Llewod, Rob Howley yn disgwyl gwell perfformiad ddydd Sadwrn.

Dywedodd Howley: “Fe gawson ni gyfarfod am y gêm a natur taith y Llewod yw fod rhaid i chi symud ymlaen.

“Rydyn ni’n siomedig dros ben ac fe wnawn ni dderbyn yr ergyd.

“Ar daith y Llewod, rydych chi’n sôn am bwysigrwydd momentwm ac yn ystod y pedair neu bum gêm ddiwethaf, mae’r momentwm wedi bod gyda ni.

“Nawr, yr hyn sy’n bwysig yw sut rydyn ni’n ymateb i’r gêm honno.”

Wrth drafod ffitrwydd George North, dywedodd Howley: “Fe gododd George gyda’r wawr ac fe ddaeth e drwy brawf ffitrwydd, a dydw i erioed wedi’i weld e mewn gwell siâp.

“Mae e ar gael i’w ddewis dros y penwythnos ac mae hynny’n hwb mawr i ni.

“Rydyn ni wedi gofalu amdano fe ers wythnos ac mae’n dipyn o hwb i’r morâl i ni gael rhywun fel George North yn holliach.”