Mae Clwb Pêl-Droed Caerdydd wedi darganfod y byddan nhw’n dechrau bywyd yn yr Uwch Gynghrair gyda thaith i West Ham ar Awst 17.

Maen nhw’n cystadlu yn yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf eleni, wedi iddyn nhw sicrhau dyrchafiad o’r Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

Bydd Caerdydd ac Abertawe’n herio’i gilydd yn y brifddinas ar Dachwedd 2, cyn i’r Adar Gleision deithio i Stadiwm Liberty ar Chwefror 8.

Bydd eu gêm gartref gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Man City ar Awst 24.

Bydd ganddyn nhw ornest adref yn erbyn Southampton ar Ddydd Gŵyl San Steffan, ac fe fyddan nhw’n gorffen y tymor adref yn erbyn Chelsea ar Fai 11.

Yr Elyrch

Bydd Abertawe’n croesawu Man U a’u rheolwr newydd, David Moyes i Stadiwm Liberty ar ddiwrnod agoriadol y tymor.

Wythnos yn ddiweddarach, fe fyddan nhw’n wynebu Gareth Bale a Spurs yn White Hart Lane.

Taith i Chelsea sy’n eu hwynebu adeg y Nadolig, cyn iddyn nhw orffen y tymor yn Sunderland ar Fai 11.

Cwpan yr FA

Er nad yw rowndiau cyntaf Cwpan yr FA wedi’u penderfynu eto, daeth cadarnhad mai’r rownd derfynol fydd yn cloi’r tymor eleni.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r rownd derfynol wedi’i chynnal yn Wembley ar yr un diwrnod â rhai o gemau’r Uwch Gynghrair.

Dywedodd llefarydd ar ran yr FA: “Rydyn ni’n ymwybodol iawn fod y cefnogwyr a’r cyfryngau wedi bod yn galw am i rownd derfynol Cwpan yr FA gael diwrnod iddi’i hun ac rydyn ni wrth ein boddau fod hyn yn mynd i ddigwydd yn 2014.

“Hwn yw’r tro cyntaf rydyn ni wedi llwyddo i gael dyddiad unigryw ar gyfer rownd derfynol Cwpan yr FA ers Chelsea v Portsmouth yn 2010.

“Mae amryw resymau am hynny, nid lleiaf ddwy rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn Stadiwm Wembley sydd wedi bod yn achlysuron gwych ac yn gofyn am adnoddau anferth a chryn dipyn o amser yn arwain i fyny ati y tu ôl i’r llenni.”