Mae’r Llewod wedi colli am y tro cyntaf ar y daith, bedwar diwrnod yn unig cyn iddyn nhw wynebu Awstralia.

Enillodd y Brumbies y gêm yn Stadiwm Canberra, 14-12, ac wrth wneud hynny y nhw yw’r tîm rhanbarthol cyntaf i guro’r Llewod yn Awstralia ers i Queensland ennill 42 mlynedd yn ôl.  

Ond dywedodd hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland bod y tîm yn haeddu colli a fod eu perfformiad ddim digon da yn yr hanner cyntaf.

Roedd y Llewod yn colli o 8 -3 hanner amser wedi i ganolwr y Brumbies, Tevita Kuridrani, drosi unig gais y gêm, ond roedd perfformiad y Llewod yn llawer gwell yn yr ail hanner.

Gyda 18 munud i fynd a’r Llewod yn colli 14-6, daeth Owen Farrell ymlaen yn lle Stuart Hogg yn safle’r maswr. Ciciodd Farrell ddwy gic gosb i’w gwneud hi’n gyffrous yn y munudau ola’ wrth i’r Brumbies flino ond roedd y cyfan yn ofer.

Y Dewin o’r Aman

Roedd llawer o feirniadaeth wedi bod am  ddewis Gatland i alw Shane Williams i’r garfan ar gyfer y gêm oherwydd anafiadau a gan fod y rhan fwyaf o’r chwaraewyr fydd yn wynebu Awstralia wedi cael eu gorffwys.

Ond Shane Williams oedd yr agosaf i drosi cais i’r Llewod yn yr hanner cyntaf wrth iddo ennill ei ddeuddegfed cap.

Dywedodd Warren Gatland wrth Sky Sports 1 wedi’r gêm: “Roeddwn yn siomedig gydag angerdd yr hanner cyntaf a ro’n i’n meddwl ein bod ni’n llawer gwell yn yr ail hanner.

“Fe wnaethon ni ychydig o newidiadau, rhoi ychydig o roced iddyn nhw ar hanner amser a ro’n i’n meddwl ein bod ni’n llawer gwell yn yr ail hanner.

“Roedden ni’n ymddangos yn fflat allan yna yn yr hanner cyntaf, chwarae gormod yn ein hanner ein hunain ac mae’n debyg bod angen i chwarae ychydig yn ddoethach.”