Nathan Cleverly
Mae disgwyl i Nathan Cleverly amddiffyn ei deitl WBO is-drwm yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd ar Awst 17.

Hwn fydd y chweched tro iddo amddiffyn ei deitl, ond does dim sicrwydd eto pwy fydd ei wrthwynebydd ar gyfer yr ornest.

Roedd Cleverly wedi cytuno i herio Sergey Kovalev, ond fe fydd y Rwsiad bellach yn wynebu Bernard Hopkins.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Llundain, dywedodd hyrwyddwr Cleverly, Frank Warren: “Roedden ni’n gobeithio cyhoeddi gwrthwynebydd nesaf Nathan heddiw ar gyfer gornest sydd i ddigwydd ar Awst 17.

“Roedden ni’n gobeithio y byddai honno yn erbyn Sergey Kovalev.

“Fe wnaethon ni gytuno ar delerau gyda HBO, a ddaeth aton ni gyda’r ornest hon ym mis Mai.”

“Yn wreiddiol roedden ni wedi bwriadu cynnal yr ornest ym mis Gorffennaf.”

Ond cafodd honno ei gohirio gan fod gan Kovalev ornest arall.

Mae disgwyl cadarnhad am argaeledd Kovalev yn ddiweddarach heddiw.

Mae’r Rwsiad 30 oed yn un o’r paffwyr mwyaf disglair yn ei bwysau, gan lorio’i bum gwrthwynebydd diwethaf i gael buddugoliaeth.