Abertawe yw’r ffefrynnau ar hyn o bryd i arwyddo seren Ffrainc, Bafetimbi Gomis o Lyon am £8 miliwn.
Mae Caerdydd, sydd newydd ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, hefyd wedi dangos eu diddordeb yn yr ymosodwr 27 oed.
Mae’n cael ei ystyried yn bartner ymosodol delfrydol i Michu i’r Elyrch, wrth iddyn nhw geisio cryfhau’r garfan ar gyfer eu hymgyrch yn Ewrop y tymor nesaf.
Sgoriodd Michu 22 o goliau y tymor diwethaf.
Haf tawel a gafwyd yn Abertawe o ran trosglwyddiadau mor belled, sydd wedi achosi cryn dyndra rhwng y rheolwr, Michael Laudrup a’r cadeirydd, Huw Jenkins.
Sgoriodd Gomis 20 gôl mewn 40 gêm i Lyon y tymor diwethaf.
Mae adroddiadau yn Ffrainc yn awgrymu bod Lyon yn awyddus i werthu’r ymosodwr er mwyn gwneud elw sylweddol mewn cyfnod economaidd gwael i’r clwb.
Byddai unrhyw ddêl i ddod â’r Ffrancwr i’r Liberty yn golygu torri record trosglwyddo’r clwb – £5.5 miliwn am Pablo Hernandez ddechrau’r tymor diwethaf.
Gallai’r Elyrch arwyddo’r chwaraewr canol-cae Jonathan de Guzman yn barhaol cyn dechrau’r tymor, wedi tymor llwyddiannus ar fenthyg y tymor diwethaf.
Ac mae Jose Canas eisoes wedi ymuno yn rhad ac am ddim ar gyfer y tymor nesaf.
Mae Laudrup hefyd yn gobeithio arwyddo’r amddiffynnwr o Espanyol, Jordi Amat a chyn-ymosodwr Arsenal a Middlesbrough, Jeremie Aliadiere.