Mae amddiffynnwr Abertawe, Angel Rangel wedi canmol dylanwad ei gyd-Sbaenwyr yn dilyn tymor llwyddiannus yn Stadiwm Liberty.

Mae Rangel yn un o bedwar Sbaenwr sy’n cynrychioli’r tîm, ynghyd â Michu, Chico Flores a Pablo Hernandez.

Roedd y pedwar yn flaenllaw yn llwyddiant Abertawe y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw orffen yn hanner uchaf yr Uwch Gynghrair, a chipio Cwpan Capital One yn Wembley gan sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa y tymor hwn.

Fe fydd gan y pedwar ran fawr i’w chwarae yn y gystadleuaeth honno eleni.

Pleser

Dywedodd Angel Rangel: “Bu’n bleser cael chwarae gyda nhw.

“Ar y cae maen nhw’n chwaraewyr o’r radd flaenaf ac oddi ar y cae, maen nhw’n grŵp gwych o fois.
 
“Mae’r dylanwad Sbaenaidd yn y clwb wedi bod yn bwysig iawn yn llwyddiant y clwb, wrth fynd yn ôl i ddyddiau Roberto (Martinez) yma fel chwaraewr.

“Mae’n grêt gweld bod Abertawe yn magu cyswllt mor gryf gyda Sbaen. 

Michu

Talodd deyrnged arbennig i brif sgoriwr Abertawe y tymor diwethaf, Miguel Michu.
“Mae Michu yn effeithio arnoch chi, nid dim ond o ran ei goliau, ond hefyd ei waith ar y bêl ac oddi ar y bêl.

“Mae’n mynd amdani 100% – dydy e ddim yn ofni unrhyw beth.

“Pan welwch chi chwaraewr fel fe, mae’n eich ysgogi chi hyd yn oed yn fwy.

“Mae’n wych i weld ei angerdd e.”