Mae cannoedd o lanhawyr, cogyddion, gyrwyr a gweithwyr sifil eraill yng nghanolfannau’r Awyrlu – gan gynnwys Y Fali ar Ynys Môn – yn cynnal streic heddiw yn dilyn anghydfod ynglŷn â chyflogau.
Mae aelodau undeb GMB a Unite mewn wyth o ganolfannau’r Awyrlu, yn cynnal streic 24 awr heddiw ac mae disgwyl gweithredu pellach.
Mae’r undebau’n anhapus gyda’r codiad cyflog o 8c yr awr sydd wedi cael ei gynnig gan y cwmni sy’n cyflogi’r gweithwyr, ISS.
Y canolfannau eraill sy’n cael eu heffeithio gan y streic yw Llanrwst yng Nghonwy, Y Friog yng Ngwynedd, Cranwell, Scampton a Kirton-in-Lindsey yn Swydd Lincoln, a Shawbury a Cosford yn Sir Amwythig.