Mae medrau rhifedd gwan gan ddisgyblion mewn tua dwy o bob pump ysgol gynradd, a hanner yr ysgolion uwchradd a gafodd eu harolygu yn 2010-2012, yn ôl y corff arolygu Estyn.

Er bod mwyafrif o ddisgyblion yn gallu mesur a defnyddio data, meddai adroddiad Estyn, nid yw llawer ohonyn nhw yn meddu ar fedrau rhif sylfaenol ac nid ydyn nhw’n  gallu cofio ffeithiau rhif allweddol yn hawdd, fel sut i luosi.

Mae adroddiad Estyn, yn edrych ar sut mae sampl o ysgolion cynradd ac uwchradd yn datblygu medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Bydd arolygwyr yn ail-ymweld â’r ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf ac yn adrodd ar ba gynnydd sydd wedi’i wneud o ran gwella medrau rhifedd disgyblion. Bydd yr astudiaeth hefyd yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion wedi rhoi Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llywodraeth Cymru ar waith, ac yn archwilio’i effaith.

‘Medrau rhifedd gwan’

Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn: “Mae llythrennedd yn parhau i fod yn destun pryder mewn ysgolion. Rydym yn gwybod nad yw llawer o ysgolion wedi rhoi gymaint o sylw i rifedd ag y gwnaethant i lythrennedd, ond mae’n hanfodol bod gan ysgolion gynlluniau clir ar gyfer datblygu medrau rhifedd. Mae angen i’r cynlluniau fynd i’r afael â medrau rhifedd gwan pobl ifanc fel eu bod yn gallu gwneud rhifyddeg pen, deall ymresymu rhifiadol a pheidio â gorfod dibynnu ar gyfrifiannell.

“Mae rhifedd sylfaenol yn un o fedrau hanfodol bywyd y mae ei angen yn y rhan fwyaf o swyddi ac i reoli cyllid personol. Ond mae mwyafrif o ddisgyblion yn cael trafferth deall sut mae rhifedd yn berthnasol i’w bywydau bob dydd, ac mae angen mynd i’r afael â hyn.

“Rydym yn gwybod na fydd newid yn digwydd dros nos. Bydd astudiaeth Estyn dros y ddwy flynedd nesaf yn olrhain y cynnydd a wneir gan ein sampl o ysgolion, ac yn adrodd ar weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd, a’i effaith.”

‘Angen monitro cynnydd disgyblion’

Dywed yr adroddiad bod nifer uchel y ddisgyblion yn cael trafferth gyda’r symiau mwyaf sylfaenol.

“Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn aml yn cael anhawster defnyddio ymresymu i ddatrys problemau ysgrifenedig am fod llawer o’r ysgolion yn addysgu technegau ysgrifenedig ar gyfer datrys symiau cyn bod dealltwriaeth gadarn gan y disgyblion o rif a gwerth lle. Mae rhai disgyblion yn cael trafferth gyda degolion, ffracsiynau a chanrannau, fel deall y perthnasoedd rhwng 2/5, 0.4 a 40%,” meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud nad oes digon o sylw yn cael ei roi  i’r cwricwlwm cyfan, a bod angen gwella olrhain a monitro cynnydd disgyblion mewn rhifedd.

Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn mynd i’r afael ar frys ag anhawster disgyblion â medrau rhif sylfaenol, ac yn sefydlu dull ysgol gyfan o gynyddu medrau rhifedd a monitro cynnydd.

‘Tystiolaeth ddamniol o ddirywiad addysg’

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr yng Nghymru,  Angela Burns AC bod yr adroddiad “yn dystiolaeth ddamniol o ddirywiad addysg yn ystod 14 mlynedd o Lywodraethau Llafur yng Nghymru.

“Yn ogystal â’i phrif ganfyddiadau, sy’n peri pryder, mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhagoriaeth mewn addysgu rhifedd mewn rhai ysgolion – ond mae’n ymddangos bod y rhain yn enghreifftiau prin yn hytrach na’r arfer cyffredin.”

Yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas AC mae’r adroddiad “yn cadarnhau pryderon y Blaid am rifedd.

“Bydd dysgu da a gwell safonau mewn dysgu yn hanfodol i lwyddiant ymgyrch llythrennedd a rhifedd Cymru. Dyw olrhain hynt plant trwy gydol eu haddysg ddim yn ddigon: rhaid camu i mewn yn gynnar er mwyn rhoi’r cyfle gorau i bob plentyn.”

Dywedodd  Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud beth fydd yn cael ei wneud ar gyfer y plant hynny sydd eisoes wedi cael eu methu  cyn i unrhyw gynlluniau tymor hir i ddelio â’r diffyg llythrennedd a rhifedd  ddwyn ffrwyth.”