Abertawe
Mae Abertawe yn gobeithio bod ar y rhestr fer i fod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2017.

Mae disgwyl i’r rhestr fer gael ei chyhoeddi’n ddiweddarach heddiw.

Eisoes, mae gan y ddinas nifer o gefnogwyr i’w cais, gan gynnwys yr actorion Michael Sheen a Joanna Page, timau chwaraeon y Gweilch a’r Elyrch ac awdur Doctor Who a Torchwood, Russell T Davies.

Cafodd y cais ei gyflwyno ar y cyd gyda chynghorau Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae’r cais yn tynnu sylw at dreftadaeth y ddinas, ei phrifysgolion arloesol, cymunedau amlddiwylliannol a chelf gyfoes.

Pe bai’n ennill, fe allai Abertawe gynnal Gŵyl Pete Ham, i goffáu prif leisydd y band ‘Badfinger’ o gyrion y ddinas ac i hybu gwaith cerddorion nad ydyn nhw’n adnabyddus.

Yn ogystal, fe fydd labordy hanes yn cael ei sefydlu ar safle Gwaith Copr yr Hafod, pasiant i blant ac fe allai carfan y Llewod ar gyfer 2017 gael ei chyhoeddi yn Abertawe.

‘Ardal amrywiol ei diwylliant’

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips: “Mae Bae Abertawe’n ardal amrywiol ei diwylliant sydd eisoes â hanes diwydiannol balch, amgueddfeydd ac orielau celf blaenllaw, timau chwaraeon o’r radd flaenaf yn y byd, golygfeydd sydd wedi ennill gwobrau, a phobol greadigol.

“Mae hyn yn darparu diwylliant a ffordd o fyw heb ei ail, gan helpu i gyfoethogi bywyd bob dydd yn ein cymunedau.

“Yn 2017, hoffwn ni i’r byd ymuno gyda ni i ddathlu, nid y diweddglo, ond dechrau taith ddiwylliannol.”

Dywedodd yr awdur, Russell T Davies: “Mae’r ddinas hon wedi bod yn gylch o ddoniau, dychymyg ac egni erioed.

“Rwy’n credu y byddai’n wych i weddill y byd weld beth sydd gennym i’w gynnig.”

Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon fydd yn dewis yr enillydd, ac mae’r ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel sydd wedi’i gadeirio gan y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr teledu, Phil Redmond.