Yn rhifyn heno o’r Byd ar Bedwar ar S4C  mae Aelod Cynulliad yn galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i dactegau’r heddlu yn ystod Streic y Glöwyr bron i 30 mlynedd yn ôl.

Yn ôl Mick Antoniw, AC Pontypridd, fe wnaeth uchel swyddogion o’r heddlu “osod trap” ar gyfer glöwyr a “phenderfynu bod nhw’n mynd i arestio a gwneud esiampl ohonyn nhw”.

Fe ddigwyddodd hynny yn ystod gwrthdaro gwaedlyd pan oedd y glowyr yn picedu gwaith golosg Orgreave yn Swydd Efrog ar Fehefin 18, 1984.

Ym ‘Mrwydr Orgreave’, fel mae’n cael ei hadnabod, y gwelwyd peth o’r trais gwaetha’ yn ystod y streic wnaeth bara blwyddyn.

Fe fu ymladd ffyrnig pan ddaeth miloedd o heddlu a phicedwyr wyneb yn wyneb a chafodd dros naw deg o lowyr eu harestio. Cafodd 53 eu cyhuddo o achosi terfysg, trosedd ar y pryd a allai olygu cosb eithaf o garchar am oes.

Gollwng y cyhuddiadau

Roedd y glöwyr yn dod gerbron eu gwell mewn grwpiau. Ond ar ôl 10 wythnos fe wnaeth yr erlyniad dynnu’r cyhuddiadau yn ôl a chafodd pob glöwr ei ryddhau.

Fe aeth dau o’r glöwyr o Dde Cymru oedd wedi cael eu harestio yn ôl i safle Orgreave efo’r Byd ar Bedwar.  Mae Phil James o Flaendulais ger Castell Nedd yn haeru iddo gael ei daro ar ôl iddo ymyrryd wrth i blismyn gicio glöwr ar lawr.

“Wy’n gwybod na wnes i ddim o’i le. Yr heddlu oedd yn rioto, nid ni,” meddai Mr James oedd yn arfer gweithio yng Nglofa Blaen-nant.

“Roedd yna wyth deg neu naw deg ohonon ni, ac fe fethon nhw a chael yr un ohonon ni yn euog o wneud unrhyw beth yn rong.”

Arestio

Fe gafodd Harry Selwood o Langennech hefyd ei arestio a’i gyhuddo o greu terfysg. Mae yntau’n teimlo bod yr heddlu wedi cynllwynio i fframio’r glöwyr, ac mae’n flin na chafodd dim ei wneud ar ôl i’r achos chwalu.

“Tawn i wedi cael fy nghosbi am greu reiat, fe fyddwn i wedi cael (o leia) ddeng mlynedd yn jâl. Ond am ein bod ni wedi ennill yr achos, oni ddyle rhywun arall ateb am hyn?” meddai.

Amddiffyn

Cyn dod yn wleidydd, roedd Mick Antoniw yn gyfreithiwr oedd yn amddiffyn rhai gafodd eu harestio yn Orgreave.

“Roedd hi’n eglur iawn i mi, oddi wrth yr holl wybodaeth ddaeth i’r amlwg yn ystod 10 wythnos yr achos ei hun, fod yna drap wedi ei osod ar eu cyfer nhw (y glöwyr) …

“Ac roedd hi’n glir fod llawer o’r heddlu wedi cynllwynio gyda’i gilydd ynglyn a’r datganiadau … fod y dystiolaeth roion nhw at ei gilydd yn anghywir, camarweiniol, wedi ei sgrifennu gan eraill, roedd peth ohono yn gwbwl anhygoel,” meddai.

Cyn Hillsborough 

Llynedd fe ddaeth hi’n glir ar ôl ymchwiliad i drychineb Hillsborough fod Heddlu De Swydd Efrog wedi “adolygu a newid datganiadau” tystion. Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yr IPCC nawr yn ymchwilio i’r mater.

Roedd yr helynt yn Orgreave bum mlynedd ynghynt na Hillsborough ond yr un heddlu oedd yn flaenallaw gyda’r ddau achos – Heddlu De Swydd Efrog.

Mae Mick Antoniw yn grediniol y dylai ymchwiliad cyhoeddus nawr gael ei gynnal i ymddygiad yr heddlu yn Orgreave ac y dylai unrhyw gyn-swyddog wynebu achos llys os ydyn nhw wedi troseddu.

Fe gysylltodd Y Byd ar Bedwar efo Heddlu Swydd Efrog i ofyn am ymateb. Mewn datganiad fe ddwedon nhw mai nhw eu hunain wnaeth gyfeirio yr achos i’r IPCC ac y bydden nhw yn cydweithio yn llawn gydag unrhyw ymchwiliad.

Fe ddwedodd yr IPCC bod nhw’n dal i ystyried a ydyn nhw yn mynd i gynnal ymchwiliad ai peidio. Mewn datganiad fe ddwedon nhw  ei bod hi’n fynydd o dasg archwilio drwy 65,000 o ddogfennau yn ôl yr amcangyfrif, ac y bydden nhw’n ceisio cwblhau hynny mor fuan ac y gallan nhw.

Y Byd ar Bedwar, 9.30yh heno ar S4C