Olympics Llundain
Bydd yr Arglwydd Coe yn ymweld â Chaerdydd ddydd Llun i gael gwybod sut mae chwaraeon yn cael eu datblygu yng Nghymru.
Yn ogystal â bod yn brif siaradwr ynn nghynhadledd flynyddol Chwaraeon Cymru, bydd yn ymweld ag ysgol uwchradd leol a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod chwaraeon fel nofio a gymnasteg wedi cynyddu mewn nifer o ran aelodaeth ers y gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn ddiwethaf, tra bod chwaraeon anabledd wedi cynyddu 20% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ogystal â’r Arlwydd Coe, fe fydd Gweinidog Chwaraeon Cymru John Griffiths, Cadeirydd Chwaraeon Cymru sef Yr Athro Laura McAllister a’r cyn athletwr Lynn Davies yn cymryd rhan yn yr ymweliad.
Bydd y cyn-bencampwr Olympaidd yn mynd i Ysgol Uwchradd Fitzalan gyda Lynn Seehasuth a Sunshine Leon – y ddau ohonynt yn rhan o’r digwyddiad ‘On Your Marks’ yng Nghaerdydd ar ddiwrnod cyntaf y Gemau Olympaidd.
Mae Fitzalan bellach yn gartref i nifer o glybiau chwaraeon gan gynnwys tîm pêl-droed Caerdydd ar gyfer chwaraewyr sydd â nam ar eu golwg a thîm pêl-droed anabledd dysgu.
‘‘Yn dilyn y Gemau rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o geisiadau am arian sy’n dod i fewn wrth yr ardal leol, gan gynnwys clybiau ieuenctid a chanolfannau chwarae sy’n awyddus i hyrwyddo chwaraeon,’’ meddai Dan Bufton, Chwaraeon Caerdydd.
Ar ôl ymweld â Fitzalan, fe fydd yr Arglwydd Coe yn ymweld ag Athrofa Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Sophia i gwrdd â nifer o’r aelodau Adran Gwyddoniaeth Chwaraeon a thîm meddygaeth a oedd yn rhan o’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Llundain.
Fe fydd yn ymweld â Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru gan gwrdd â rhai athletwyr fydd yn anelu at gynrychioli Prydain yn Rio yn 2016.
‘‘Roedd yna llawer o bobl a wnaeth gyfrannau tuag at lwyddiant yr athletwyr Prydeinig. Nawr, mae gennym y cyfleusterau i gefnogi ein chwaraewyr elitaidd i gystadlu yn erbyn y goreuon,’’ meddai Brian Davies, rheolwr y sefydliad.