Fe fydd blaen asgellwr Gleision Caerdydd Josh Navidi yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yfory wrth iddyn nhw herio Japan yn Stadiwm Goffa Tywysog Chichibu yn Tokyo.
Ar wahân i Navidi mae yna dri newid i’r tîm ers y prawf cyntaf, gyda Tom Prydie ar yr asgell, Rhys Gill yn dechrau yn safle’r prop ac Andries Pretorius yn safle’r wythwr wrth gefn y sgrym.
Yr unig newid i’r rheng flaen yw Gill yn dod i fewn wrth ochr bachwr y Scarlets, Emyr Phillips, a fydd yn ennill ei ail gap dros Gymru, a phrop y Gleision Scott Andrews. Bydd clo’r Gleision Bradley Davies yn arwain Cymru â’i gyd chwaraewr rhanbarthol Lou Reed yn yr ail reng. Bydd James King o’r Gweilch yn safle’r blaen asgellwr ar yr ochr dywyll gyda’r wythwr Andries Pretorius.
‘‘Roeddem yn falch o ymdrech y bechgyn y penwythnos diwethaf. Bydd angen i ni godi ein gêm ar gyfer yfory,’’ meddai rheolwr dros dro Cymru, Robin McBryde.
Tîm Cymru
Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Owen Williams, Jonathan Spratt, Tom Prydie, Dan Biggar a Lloyd Williams.
Blaenwyr – Rhys Gill, Emyr Phillips, Scott Andrews, Bradley Davies (Capten), Lou Reed, James King, Josh Navidi a Andries Pretorius.
Eilyddion – Scott Baldwin, Rhodri Jones, Craig Mitchell, Andrew Coombs, Dan Baker, Tavis Knoyle, Rhys Patchell a Dafydd Howells.