Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi ategu ei fwriad i aros yn y Liberty am dymor arall, er gwaethaf adroddiadau sy’n ei gysylltu â swydd rheolwr Paris Saint-Germain.

Mae’r clwb ym mhrifddinas Ffrainc yn chwilio am olynydd i Carlo Ancelotti, sy’n gobeithio cael ei benodi’n rheolwr Real Madrid, ac mae’r wasg Ffrengig yn honni bod trafodaethau gyda Laudrup wedi dechrau.

Ond yng nghanol yr ansicrwydd, mae Laudrup wedi datgan nifer o weithiau nad yw’n bwriadu gadael Abertawe.

Bu amheuon am ddyfodol y gŵr o Ddenmarc ers i’r Elyrch a’i asiant, Bayram Tutumlu, ffraeo.

Mae Tutumlu wedi mynegi ei ddymuniad i fod yn rhan o’r penderfyniadau ynghylch pa chwaraewyr i’w harwyddo, ond mae cadeirydd y clwb, Huw Jenkins, wedi mynegi’n glir na fydd hynny’n digwydd.

Bu Tutumlu yn asiant i Laudrup ers ei ddyddiau fel chwaraewr gyda Barcelona, ac mae’n annhebygol y bydd y bartneriaeth waith yn dod i ben er gwaetha’r ffrae.