Mae’r Waratahs wedi enwi tîm sydd yn cynnwys wyth chwaraewr rhyngwladol, yn cynnwys capten y Waratahs, Dave Dennis, a gafodd ei ryddhau gan Awstralia i fod ar gael i’r Waratahs.

Hyd yma ar y daith bu cwynion lu fod y Llewod wedi wynebu timau ceiniog a dimau nad oedd yn medru rhoi her go-iawn. Yn eu gêm ddiwetha’ bu’r Llewod yn cystadlu’n erbyn chwaraewyr rhan amser, gan faeddu’r Combined Country 64-0 a sgorio deg cais.

Ond mae’n argoeli’n gêm well yfory, gyda Bernard Foely a Matt Lucas hefyd wedi eu rhyddhau gan dîm saith bob ochr Awtralia i ymuno â’r Waratahs.

Bydd Foley yn dechrau yn safle’r maswr a Lucas ar y fainc.