Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae Plaid Cymru wedi condemnio aelodau Llafur ac Annibynnol ar Gyngor Sir Caerfyrddin am beidio â chefnogi’r alwad am asiantaeth statudol i gynghori cynllunwyr am ddatblygiadau tai a allai niweidio’r iaith Gymraeg.

Cafodd cynnig y Blaid i sefydlu’r fath asiantaeth ei drechu yn dilyn trafodaeth danllyd yn siambr y cyngor ddoe (dydd Mercher). Mae’r Blaid nawr yn bwriadu cyflwyno’r syniad yn syth i Lywodraeth Cymru.

“Mae aelodau Llafur yn cyfaddef bod y polisïau cyfredol sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg mewn cynllunio yn anfoddhaol, ac eto wedi pleidleisio yn erbyn cynnig oedd yn awgrymu ffyrdd adeiladol o wella’r sefyllfa,” meddai’r Cynghorydd Tyssul Evans, dirprwy-arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, sydd â 28 aelod.

“Mae’n bosib nad oedd y grŵp Llafur yn Sir Gâr am godi cywilydd ar y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, sydd wedi llusgo ei thraed ar y mater pwysig hwn ers hydoedd.

“Ond beth oedd esgus yr aelodau Annibynnol, o ardaloedd gwledig yn bennaf, am bleidleisio yn unfrydol yn erbyn mesurau a fyddai’n amddiffyn eu cymunedau rhag gor-ddatblygu yn y dyfodol?

“Bydd llawer o bobl leol yn teimlo’n siomedig ac yn ddig bod cynghorwyr Annibynnol, trwy gefnogi’r grŵp Llafur, wedi bradychu eu cymunedau a’r iaith Gymraeg.”

Pryderon Penybanc  

Cafodd cynnig Plaid Cymru ei ysgogi gan y pryder cynyddol yn Sir Gaerfyrddin ynglŷn â datblygiadau tai enfawr.

Mae cynllun i adeiladu bron i 300 o dai ym Mhenybanc, ger Rhydaman wedi cael caniatâd – er gwaethaf gwrthwynebiad gan ymgyrchwyr iaith a thrigolion lleol.

Mae datblygiadau mawr eraill hefyd ar y gweill.

Bydd Plaid Cymru nawr yn cyflwyno’r achos dros sefydlu asiantaeth statudol, i gynghori cynllunwyr am y modd y gall datblygiadau tai effeithio ar yr iaith, yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.