Dan Biggar wedi'i anafu
Mae yna bryderon ynglŷn â ffitrwydd y maswr Dan Biggar ar gyfer ail brawf Cymru yn erbyn Japan yn Tokyo ddydd Sadwrn.

Mae gan Biggar, a sgoriodd 14 pwynt wrth i Gymru guro Japan o 22 i 18 yr wythnos ddiwethaf yn Osaka, broblem gyda llinyn y gâr, sy’n golygu nad yw e’n gallu ymarfer gyda gweddill carfan Cymru.

Dywedodd Rheolwr y tîm, Alan Phillips: “Byddwn ni’n gwybod mwy am ddewis y tîm ddydd Iau oherwydd bod rhai o’r tîm ag ychydig o broblemau.”

Un o’r rhai sy’n disgwyl dychwelyd yw’r prop Craig Mitchell, ar ôl iddo wella o anaf i’w bigwrn.

Dim dyfarnwr fideo

Unwaith eto, fydd dim dyfarnwr fideo ar gyfer y gêm. ddydd Sadwrn yma yn erbyn Japan.

Roedd Cymru’n anhapus am nad oedden nhw wedi cael gwybod na fyddai dyfarnwr fideo ar gael ar gyfer y prawf cyntaf yn Osaka.

Ychwanegodd Phillips “Fel ry’n ni’n deall, dydy gwledydd rygbi ail haenen ddim yn cael dyfarnwyr fideo o reidrwydd oherwydd y gost o hedfan pobol allan o Awstralia neu Seland Newydd, dyweder, am gwpwl o wythnosau.”