Charmaine MacMuiris
Mae dyn 28 oed wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddio ei gariad yng Nghaerfyrddin ar ddydd Nadolig.

Cafwyd hyd i gorff Charmaine MacMuiris, 37 oed, mewn tŷ ym Maes yr Ysgol, Caerfyrddin ar 25 Rhagfyr y llynedd.

Cafodd David O’Sullivan ei gyhuddo yn gynharach eleni o lofruddio’r fam i dri o blant yn ei gartref yng Nghaerfyrddin. Roedd hi wedi cael ei thrywanu i farwolaeth.

Fe ymddangosodd David O’Sullivan gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw, lle plediodd yn euog i’r cyhuddiad.

Ym mis Mawrth roedd wedi gwadu’r cyhuddiad ac roedd disgwyl i’r achos ddechrau heddiw.

Fe fydd David O’Sullivan yn cael ei ddedfrydu prynhawn ma.