Mae heddlu’r Gogledd yn parhau i ymchwilio ar ôl i ddyn 43 mlwydd oed foddi mewn pwll mewn parc yn Sir y Fflint dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ger Treffynnon am 5:20yh ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod corff dyn lleol wedi cael ei ddarganfod yn ddiweddarach gan  uned chwilio danddwr.

Mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.