Disgwylir i oddeutu 5,000 o weithwyr sifil yng Nghymru streicio ddydd Iau nesaf. Mae’r anghydfod ynglyn â swyddi, cyflogau ac amgylchiadau gweithio.

Mae aelodau undeb y PCS – sy’n cynnwys gweithwyr o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac Adran Dollau a Chyllid Ei Mawrhydi – yn ymgyrchu yn erbyn torriadau gan Lywodraeth Prydain.

Mae disgwyl i nifer helaeth o aelodau undeb y PCS streicio – hyd at 40% o holl aelodau’r undeb.

Bydd streicio ar draws Ynysoedd Prydain gyda’r gweithredu yn cyyraedd Cymru ddydd Iau. Yn dilyn cynhadledd flynyddol yr undeb yn Brighton yr wythnos ddiwethaf, cytunwyd cynnal streic gyda’r undeb yn datgan fod y Llywodraeth yn parhau i wrthod trafod â hwy.

Dywedodd llefarydd ar ran y PCS yng Nghymru: “Rydym yn cynnal y streic yma oherwydd fod y Llywodraeth yn gwrthod hyd yn oed cynnal trafodaethau â ni ar achosion megis cyflogau, torriadau i swyddi ac newidiadau i dermau ac amodau gweithio. Rydym yn galw am gytundeb teg i’n gweithwyr. Gan fod y Llywodraeth yn gwrthod siarad, rydym yn ymladd i amddiffyn ein hawliau.”

Bydd y diwrnod cyntaf o streicio yn cyd-fynd â pheilot i gau 13 o ganolfannau ymholiad Adran Dollau a Chyllid Ei Mawrhydi yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Yn ol llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet:
“Mae’n siomedig clywed fod y PCS yn mynd ymlaen gyda’r streic yma ond mae gennym gynlluniau i ymateb i sefyllfaoedd annisgwyl fel hyn.”