Bridger yn gadael y llys
Mae un o gynghorwyr tref Machynlleth wedi apelio ar y dyn gafodd ei garcharu am oes am lofruddio April Jones i ddatgelu ble mae ei chorff.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddoe, cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes ar ôl i reithgor ei ganfod yn euog o gipio a llofruddio’r ferch fach pump oed, ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd e’n treulio gweddill ei oes dan glo.

Diflanodd April ar Hydref 1 wrth iddi chwarae ger ei chartref ar stad Bryn-y-Gog ym Machynlleth.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Williams: “Sut gall dyn fod mor annheimladwy? Sut mae’n bosib i unrhyw un fod yn y fath feddylfryd?

“Rwy’n apelio ar Mark Bridger – plis, plis rhowch wybod i’r teulu.

“Beth ddigwyddodd i’r ferch fach honno, ble cafodd hi ei rhoi? Beth wnaeth e gyda hi?”

Cyfaddefiad cyflym yn annhebygol?

Eisoes, mae seicolegwyr wedi rhybuddio y gallai gymryd blynyddoedd cyn i Bridger ddatgelu’r manylion.

Yn ystod ei brawf, honnodd ei fod e wedi taro’r ferch fach gyda’i Land Rover.

Dywedodd nad oedd e’n cofio beth ddigwyddodd wedyn oherwydd ei fod e wedi meddwi.

Cafodd olion dynol eu darganfod wedi’u llosgi yn ei gartref pan gafodd ei arestio.

Mae rhieni April, Coral a Paul Jones wedi dweud na fyddan nhw’n gofyn iddo ble mae corff eu merch, ac nad ydyn nhw’n disgwyl atebion ganddo.

Dywedodd Coral Jones fod y cyfan wedi bod yn “hunllef”.