Mae’r cyhoedd yn cael mynd ar draeth ym Môn eto, wedi i’r awdurdodau fedru cadarnhau bod fflêr morwrol a gafodd ei darganfod yno ddim yn beryglus.
Roedd Heddlu’r Gogledd wedi cau’r ardal ger y pier ym Mae Cemaes ar arfordir ogleddol yr ynys, rhag ofn i bethau fynd yn flêr efo’r fflêr.
Fe gafodd Uned Gwaredu Bomiau’r fyddin ei galw, a gwelwyd bod y ddyfais yn hesb ac eisoes wedi ei thanio.