Rhys Meirion
Mae’r cantorion Rhys Meirion, Elin Fflur a Lucie Jones yn dathlu wrth i’w CD newydd Cerddwn Ymlaen gyrraedd rhif 1 yn siartiau Cerddoriaeth Byd iTunes.
Recordiwyd y CD fel rhan o ymgyrch i godi arian ar gyfer taith ‘Cerddwn Ymalen’ 2013, taith noddedig wyth diwrnod, oddeutu 200 milltir ar draws Cymru er mwyn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.
Perfformiwyd un o’r caneuon, ‘Y Weddi’ am y tro cyntaf gan Rhys Meirion ac Elin Fflur yn ystod Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro nos Sul.
Dywedodd Rhys Meirion: “Rydw i mor falch o glywed fod CD Cerddwn Ymlaen wedi bod mor boblogaidd mor sydyn, mae’n beth hynod iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi lawrlwytho’r caneuon hyd yn hyn ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i gyhoeddi y CD go iawn mewn ychydig wythnosau.”
Ymysg y caneuon ar y CD mae ‘You’ll Never Walk Alone’ gan Rhys Meirion a Lucie Jones a ‘The Prayer’ (fersiwn Saesneg), gan Rhys Meirion ac Elin Fflur.
Bydd yr elw o werthiant y CD yn mynd tuag at daith ‘Cerddwn Ymalen’ 2013. Bydd y CD yn y siopau erbyn diwedd Mehefin.
Mae mwy o wybodaeth am y daith gerdded i’w gael ar wefan www.cerddwnymlaen.com.