Darlun o Mark Bridger yn y llys (PA)
Mark Bridger yw un o’r dynion mwya’ dieflig yn hanes gwledydd Prydain, meddai Aelod Senedol.

Fe fyddai unrhyw beth ond carchar am oes wedi siomi teulu’r ferch 5 oed April Jones a phobol tref Machynlleth, meddai AS Maldwyn, Glyn Davies.

“Fydd ganddo ddim o’r cyfle i ddod yn ôl i Fachynlleth i ddeffro atgofion dychrynllyd,” meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales. “Roedd hwn yn fath arbennig o ddrwg.”

Mae ef a phobol eraill wedi dweud fod y ddedfryd yn Llys y Goron yr Wyddgrug am helpu Machynlleth a’r ardal i symud ymlaen.

Angen archwilio gwefannau cam-drin plant

Mae  elusen blant wedi galw am ystyriaeth newydd i ffyrdd o rwystro pobol rhag gweld safleoedd cam-drin plant ar y We.

Yn ôl yr NSPCC, mae yna dystiolaeth fod gweld tudalennau o’r fath yn sbarduno rhai pobol i droseddu yn erbyn plant.

Roedd y llys wedi clywed tystiolaeth am luniau cam-drin plant ar gyfrifiadur Mark Bridger yn ei dŷ yng Ngheinws.