Mae Heddlu’r De wedi dod o hyd i bron i 200 o blanhigion canabis ym Mhorth yng Nghwm Rhondda.
Cafodd tŷ ei chwilio tua 9.30 bore ddoe.
Credir bod y canabis werth tua £65,000 ac fe gafodd ei ddarganfod mewn tair stafell oedd wedi cael eu haddasu ar gyfer ei dyfu.
Roedd gan y tŷ gyflenwad trydan uniongyrchol o’r Grid Cenedlaethol er mwyn helpu’r planhigion i dyfu.
Mae dyn 18 oed, y credir ei fod yn dod o dramor, wedi cael ei arestio ac mae’r ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Rhingyll Owain Watts: “Roedd yr ymchwiliad llwyddiannus hwn yn ganlyniad i wybodaeth gymunedol, roedd modd i ni ei datblygu a gweithredu arni.
“Roedd hon yn sefyllfa gymhleth a phroffesiynol a oedd yn amlwg yn cael ei rheoli gan bobol oedd wedi eu trefnu eu hunain ac a oedd yn gwybod beth roedden nhw’n ei wneud.
“Yr un peth nad yw’r troseddwyr hyn yn gallu’i reoli, fodd bynnag, yw dyhead y cyhoedd i wrthsefyll yr hyn maen nhw’n ei wneud.”
Ers dechrau’r flwyddyn, mae 38 o ffatrïoedd canabis yng Nghwm Rhondda wedi cael eu cau.