Angela Burns
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o ymddwyn fel Pontiws Peilat tros ofal canser.
Roedden nhw’n golchi eu dwylo o’r broblem ac yn rhoi’r bai i gyd ar y byrddau iechyd, meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns.
Roedd hi’n cyhuddo’r Llywodraeth o “fethiant systematig” ar ôl cyhoeddi’r ffigurau diweddara’, sy’n dangos methiant eto i gyrraedd targedau o ran amser triniaeth canser.
‘Angen tynnu bys mas’
“Mae yna ddiffyg arwain,” meddai Angela Burns wrth Radio Wales. “R’yn ni angen i rywun dynnu ei fys mas a gwneud i bethau ddigwydd.”
Yn ôl ffigurau mis Mawrth, dim ond 84% o gleifion canser oedd wedi cael triniaeth o fewn y targed o 62 o ddiwrnodau.
Targed y Llywodraeth yw 95% a, ddechrau’r flwyddyn, wrth ateb cwestiwn gan Angela Burns, roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi addo y byddai’n cael ei gyrraedd erbyn mis Mawrth.
Cynnydd wedi bod
Er y methiant, roedd yna gynnydd yn y canran a rhai mis Mawrth oedd y ffigurau gorau ers peth amser.
Dyw hynny ddim digon da, yn ôl Angela Burns, AC Gorllewin Caerfyrddin a Phenfro.
“Mae angen cyllid, mae angen eglurder ac mae angen arweinyddiaeth,” meddai.
‘Ymrwymiad allweddol’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae sicrhau bod yr holl gleifion canser yng Nghymru yn cael eu gweld o fewn yr amserau targed yn ymrwymiad allweddol i’r Gweinidog ac mae’r holl fyrddau iechyd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.
“Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn cael eu gweld o fewn yr amser targed.
“Mae nifer y cleifion sydd ynghlwm wrth yr ystadegau hyn yn gymharol fach ac mae’r ymyrriadau’n aml yn gymhleth, gan olygu bod newidiadau bach yn gallu effeithio ar y darlun cyfan yn gyffredinol.
‘Siomedig’
“Mae’n siomedig nad yw’r un o’r ddwy darged wedi cael ei chyflawni yn ystod y chwarter olaf ar gyfer amserau aros canser.
“Mae perfformiad wedi cael ei effeithio gan y pwysau gaeafol difrifol a gafwyd ym mis Ionawr 2013 a’r tywydd garw a gafwyd ym mis Mawrth 2013.
“Hwn yw’r chwarter cyntaf yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf mae’r targed 31 diwrnod wedi cael ei methu ac mae gennym sicrwydd gan y byrddau iechyd bod hyn wedi gwella erbyn hyn.
“Tra nad yw’r perfformiad yn erbyn y darged 62 diwrnod wedi gwella’n unol a’r disgwyliadau ar gyfer y chwarter cyfan, mae’n galonogol nodi bod y perfformiad ym mis Mawrth 2013 4 pwynt canrannol yn uwch nag ym mis Chwefror 2013, a hwn yw’r perfformiad misol uchaf ers mis Hydref 2012.
“Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r duedd well hon barhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.”