Fe fydd cleifion canser brys yn cael eu holi heddiw am y driniaeth maen nhw wedi’i dderbyn ers iddyn nhw gael diagnosis.

Ond wrth i’r arolwg gael ei lansio heddiw, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei thargedau i drin cleifion canser brys unwaith eto.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid y bydden nhw’n sicrhau erbyn mis Mawrth eleni fod 95% o gleifion canser brys yn derbyn triniaeth o fewn cyfnod o ddeufis ar ôl cael diagnosis.

Ond cafodd y targed ei methu unwaith eto, ac mae nifer y cleifion sydd heb dderbyn triniaeth yn y cyfnod hwnnw ar gynnydd.

Ar hyn o bryd, dim ond 84% o gleifion sy’n derbyn triniaeth o fewn deufis.

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan oedd yr unig fwrdd iechyd wnaeth gyrraedd y targed ar gyfer y chwarter diwethaf.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg oedd a’r ganran isaf o gleifion wnaeth dderbyn triniaeth o fewn deufis (69.9%).

Ond trwy Gymru gyfan, mis Rhagfyr 2009 oedd y tro diwethaf i’r targed gael ei chyrraedd yn genedlaethol.

Cafodd y targed ei chrybwyll yn y Cynulliad ym mis Ionawr gan Angela Burns, AC y Ceidwadwyr yng Nghymru.

Bryd hynny, daeth cadarnhad gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones y byddai Llywodraeth Cymru’n cyrraedd y targed erbyn mis Mawrth.

Yr arolwg

Nod yr arolwg sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru a Macmillan yw gwella profiadau cleifion canser wrth iddyn nhw dderbyn triniaeth.

Hwn yw’r holiadur cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac fe fydd yn mesur profiadau cleifion a gafodd eu trin rhwng mis Mehefin y llynedd a mis Mawrth eleni.

Wrth gyhoeddi’r arolwg, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Y bobol orau i ofyn iddyn nhw sut mae gwasanaethau canser yn cael eu cyflwyno yng Nghymru yw’r cleifion hwythau.

“Mae ganddyn nhw lu o brofiadau ac maen nhw’n arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain.

“Mae cryn dipyn i’w ddysgu o’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud.

“Pan fo claf yn clywed doctor yn rhoi diagnosis o ganser, mae’n foment sy’n newid bywydau.

“Gall y ffordd y mae’r doctor yn cyflwyno’r diagnosis hwnnw a’r gefnogaeth mae’r unigolyn yn ei derbyn, nid dim ond o ran eu gofal meddygol, gael effaith ar y canlyniadau i’r unigolyn.”

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Macmillan Cymru, Susan Morris: “Mae Macmillan wrth ein boddau fod Llywodraeth Cymru’n cynnal arolwg o brofiadau cleifion canser trwy Gymru gyfan.

“Hwn yw’r tro cyntaf i’r fath arolwg trylwyr o brofiadau gofal cleifion canser gael ei gynnal yng Nghymru ac mae Macmillan wir yn falch o fod yn bartner yn y fenter bwysig hon.

“Mae’n hanfodol bwysig mesur cyfraddau goroesi a thargedau amserau aros canser, ond mae hi’r un mor bwysig darganfod beth mae cleifion wir yn ei feddwl am ansawdd y gofal maen nhw’n ei dderbyn.”