Llyr Huws Gruffydd
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru yng ngogledd Cymru, Llyr Huws Gruffydd wedi beirniadu adroddiad cynllunio sy’n awgrymu y gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael gwared a hyd at 800 o staff.

Ond mae’r bwrdd iechyd  yn mynnu nad oes bwriad i ddiswyddo 800 o staff.  Fe fyddai’r toriadau’n arbed hyd at £30 miliwn y flwyddyn.

Eisoes, mae’r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi eu cynlluniau i gau pedwar o ysbytai cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Y Fflint, Llangollen a Phrestatyn.

Bydd gwasanaethau gofal i fabanod newydd-anedig yn cael eu symud dros y ffin i Gilgwri.

Ond does dim penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud am swyddi hyd yn hyn, ac mae’r bwrdd iechyd wedi gwadu eu bod nhw’n bwriadu diswyddo staff.

Dywed Llyr Huws Gruffydd y byddai lleihau nifer y meddygon a nyrsys mewn ysbytai’n gwaethygu’r sefyllfa.

‘Prinder staff’

Mewn datganiad ar ei wefan, dywedodd: “Mae’r bwrdd yn weithredol wrth drafod cynlluniau i dorri cyfwerth ag 800 o swyddi llawn amser, tra’n cydnabod ar yr un pryd fod prinder staff yn achosi problemau o ran trin cleifion ac ymestyn rhestrau aros.”

Dywedodd wrth raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru heddiw y byddai’n croesawu’r toriadau pe bai swyddi 800 o reolwyr yn cael eu torri.

Cyfeiriodd at nifer o adrannau mewn ysbytai yn y gogledd sydd wedi cael eu symud oherwydd prinder staff.

Dywedodd y gallai “nifer nid ansylweddol” o staff golli eu swyddi, ac y byddai hynny’n cael “effaith sylweddol ar wasanaethau”.

“Mae costau staff yn drwm, ond byddai llai o staff yn golygu torri ansawdd.

“Mae ansawdd llai yn golygu mwy o gostau yn y pen draw.”

‘Torri swyddi rheolwyr’

Ychwanegodd nad yw e am weld sefyllfa debyg i sefyllfa Bwrdd Iechyd Canol Swydd Stafford, lle mae tystiolaeth i ddangos bod prinder staff wedi arwain at wendidau difrifol yng ngofal cleifion.

Yn y datganiad, dywed: “Mae gwasanaethau hanfodol megis gofal babis newydd-anedig a llawdriniaethau brys yn cael eu tynnu oddi ar ein hysbytai rhanbarthol, mae ysbytai cymunedol yn cael eu cau heb unrhyw beth digonol yn eu lle fel yr addawyd, a nawr dyma ddatgelu y gallai 800 o swyddi gael eu colli.”

Dywedodd fod angen “torri swyddi rheolwyr”, ond dywedodd fod “angen mwy o uchelgais yng Nghymru a datblygu adrannau”.

Ond byddai hynny, meddai, yn gofyn am “fuddsoddiad rhagblaen”, yn ogystal â “gweledigaeth ac uchelgais o gyfeiriad Llywodraeth Cymru”.