Credir bod dau ddyn, sydd wedi ymddangos yn y llys yn dilyn ymosodiad ar fosg, yn gyn-filwyr.

Cafodd Stuart Harness, 33, a Gavin Humphries, 37, o Grimsby eu cadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron Llys Ynadon y dref bore ma ar gyhuddiad o gynnau tan yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Yn ôl ffynonellau swyddogol, roedd y ddau wedi gwasanaethu gyda’r fyddin a chredir bod un wedi treulio cyfnod yn Woolwich.

Cafodd y ddau eu harestio ar ôl i fomiau petrol gael eu taflu at Ganolfan Ddiwylliant Islamaidd Grimsby ddydd Sul tra roedd teulu ifanc y tu mewn. Dyma’r ail ymosodiad ar y mosg o fewn tridiau ers i’r milwr Lee Rigby gael ei ladd yn Woolwich wythnos ddiwethaf.

Nid oedd Stuart Harness na Gavin Humphries wedi cyflwyno ple ac fe  fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Grimsby ar 7 Mehefin.