Leighton Andrews
Mae cronfa newydd wedi ei sefydlu er mwyn galluogi ac annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.

Fe wnaed y cyhoeddiad gan Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, yn Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £250,000 dros dair blynedd a fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer cynllun grant a rhaglen gaffael.

Bydd y mentrau sy’n gymwys i gael y grant yn cynnwys prosiectau i ddatblygu ‘apps’ Cymraeg, mentrau i gynyddu’r cynnwys digidol sydd ar gael ar-lein, a phrosiectau i ddarparu seilwaith meddalwedd Cymraeg, megis testun-i-lais a meddalwedd adnabod llais.

“I sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif a bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cyfrannu’n llawn fel dinasyddion digidol, rhaid i ni wneud yn siwr bod technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg ar gael yn hawdd,” meddai Leighton Andrews.

“Ni allwn ganiatáu i’r iaith Gymraeg gael ei gadael ar ôl gan y technolegau diweddaraf. Yn hytrach, dylem ddefnyddio’r adnoddau digidol hyn fel ffordd o ddangos bod yr iaith yn gyfrwng perthnasol, modern a chreadigol.

“Mae’n galonogol gweld bod yna gymuned weithgar o siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio’n galed i ddatblygu mwy o gynnwys digidol Cymraeg fel ‘apps’, gêmau a fersiynau digidol o bapurau bro.”

Gellir gwneud cais am grant o’r Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg ar wefan Llywodraeth Cymru.