Rhys Meirion
Fe fydd y canwr, Rhys Meirion, yn cerdded o Abertawe i Gaernarfon eleni er mwyn codi arian at Ambiwlans Awyr Cymru.

A’i fwriad, meddai, yw codi cymaint os nad mwy na’r £91,000 a gafodd ei godi ganddo y llynedd.

Yn ymuno â Rhys Meirion ar y daith eleni y mae hyfforddwr blaenwyr rygbi Cymru, Robin  McBryde ynghyd a’r naturiaethwr, Iolo Williams.

Bydd y daith yn dechrau gyda chyngerdd agoriadol yng nghwmni Lucie Jones ym Mharc y Scarlets, Llanelli ar Orffennaf 13, ac yn cloi gyda chyngerdd yng Nghastell Caernarfon gyda Chôr Meibion Caernarfon, Côr Meibion Penrhyn, Shan Cothi a Dafydd Iwan.

I hyrwyddo’r daith eleni mae Rys Meirion wedi creu CD o ddeuawdau amrywiol sy’n cynnwys ‘Y Weddi’ (cyfieithiad o’r gân ‘The Prayer’ gan Celine Dion). Hefyd, mae Lucie Jones yn ymuno â’r tenor i ganu ‘You’ll never walk alone’.