Nic Parri
Culni yw’r “broblem greiddiol” y mae’r Urdd wedi dechrau ei thaclo trwy gynnal arolwg o ddyfodol yr Eisteddfod, meddai Nic Parri , cadeirydd y panel sy’n ystyried sut i ehangu apêl yr eisteddfod.

“Dyna y mae’r Urdd wedi sylweddoli,” meddai wrth Golwg 360 ar ôl cyfarfod ar y maes. “Os na fyddwn ni’n brysio ei agor ein gorwelion a’n llygaid, ydan ni’n mynd i golli tir.”

Mae syniadau’n cynnwys gwneud llawer mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, uno’r ddwy eisteddfod fawr, rhoi tocynnau am ddim i bawb sy’n cystadlu yn yr eisteddfodau cylch a chreu llawer mwy o weithgareddau heblaw’r cystadlaethau traddodiadol.

Neges i’r plismyn iaith

Fe fydd rhaid i’r plismyn iaith hefyd dderbyn y neges, meddai Nic Parri, wrth ddweud bod rhai pobol ifanc heb yr hyder i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol trwy’r Gymraeg rhag cael eu collfarnu.

“Dyna’r  culni sy’n sicrhau sefyllfa lle mae Cymry Cymraeg ifanc yn ofni cyfathrebu yn  Gymraeg,” meddai. “Y culni yna ydi’r broblem gyffredinol y mae hyn yn dechrau ei wynebu.”

Roedd pobol ifanc eisiau cyfleoedd i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol o amgylch yr Eisteddfod – hyd yn oed i rannu perfformiadau  fel gyda rhaglenni teledu fel X Factor neu Britain’s Got Talent.

“Eu neges nhw oedd, ‘os rhowch chi gyfleoedd rhyngweithio i ni, mi ddown ni,” meddai Nic Parri.

Uno’r ddwy eisteddfod?

Un o’r syniadau mwya’ dadleuol sy’n debyg o fod yn rhan o adroddiad terfynol y panel yw uno’r ddwy eisteddfod fawr – y Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.

Roedd nifer o gyfranwyr wedi awgrymu bod Maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn well, ond fod gwell cystadlu yn yr Urdd.

Yn ôl Nic Parri, fe fydd y syniad o uno’r ddwy yn cael ei grybwyll. Yr her i’r Urdd, meddai, oedd sicrhau fod llawer mwy o weithgareddau ar gael yn yr ŵyl.

Fe allai hynny gynnwys pafiliwn technoleg, neuadd newydd lle gallai cystadleuwyr a pherfformwyr, heblaw’r enillwyr, gael cyfle i gymryd rhan a chystadlaethau chwaraeon.

Syniadau newydd

Er mai dim ond dyrnaid o bobol a ddaeth trwy’r glaw i neuadd ddi-drydan i a di-olau, fe gododd nifer o syniadau newydd.

  • Roedd angen rhoi mwy o sylw i fyfyrwyr colegau addysg bellach oedd yn colli cysylltiad gydag Eisteddfod yr Urdd, yn ôl un ddarlithwraig. Roedd cannoedd o siaradwyr Cymraeg yn yr holl golegau, meddai.
  • Roedd angen ail ystyried effaith arholiadau ysgol a oedd yn cadw pobol ifanc rhwng 15 a 18 rhag gallu cymryd rhan, meddai cyfrannwr arall.
  • Roedd mwy nag un athro’n pwysleisio’r gost o orfod dod â phlant i gystadlu gyda rhai hyd yn oed wedi gorfod nodd rhieni er mwyn iddyn nhw aros.

Rhagor o arian cyhoeddus?

Arian cyhoeddus canolog fyddai’r ateb i lawer o’r cwestiynau, meddai Nic Parri – gan gynnwys y syniad o roi tocyn am ddim i’r Genedlaethol i bawb oedd yn cystadlu yn y cylch.

“Dyna’r ateb i lawr o broblemau ond yr unig ffordd y gallwch chi ddisgwyl hynny ydi dangos eich bod yn ei haeddu fo – dangos bod yr eisteddfod yn anhepgorol i bobol ifanc.”