Lois Eifion ydi enillydd medal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Mae’n gyn-ddisgybl yn ysgolion Hendre, Caernarfon; Ysgol Gymuned Penisarwaun, ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug. Mae ganddi radd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, ac mae newydd orffen astudio gweithiau corawl fel rhan o’i chwrs ol-radd.
Ond efallai mai ei chymhwyster cerddorol mwya’ ydi’r ffaith ei bod hi’n aelod o deulu enwog Hendre Cennin. Y mae’n ferch i’r tenor a’r enillydd Rhuban Glas, John Eifion. Ei mam yw Marina Bryn Jones, chwaer i’r pianydd a’r gyfeilyddes, Annette Bryn Parri, ac un o Genod Ty’r Ysgol.
Mae Lois yn arweinydd Seindorf Arian Deiniolen – y ferch gyntaf i arwain y band mewn 175 mlynedd.
Lois Eifion yw Prif Gyfansoddwr yr Eisteddfod
Arweinydd Seindorf Arian Deiniolen yn cipio’r wobr
Poblogaidd
← Stori flaenorol
CYMBAC yn y COVID!
Mae’r Trŵbz yn ôl gyda chaneuon roc a reggae, ond tydyn nhw heb fedru gwneud cweit yr argraff yr oedden nhw wedi ei fwriadu
Stori nesaf →
Cofio awyren hanesyddol Clunderwen ar y Maes
Roedd y brodyr James o Glunderwen gyda’r cynta’ i hedfan awyren
Hefyd →
Cyhoeddi’r busnesau sydd ar restr fer gwobrau cyfraniad at fro’r Eisteddfod
Mae Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod yn rhan o waddol yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf