Mae criw o bobol ifanc o ardal Eisteddfod yr Urdd eleni wedi cydweithio â haneswyr a chrefftwyr lleol er mwyn creu replica o un o’r awyrennau cynta’ yng ngwledydd Prydain.
Fe gafodd y brodyr James o Glunderwen drwydded i hedfan awyren yn y flwyddyn 1913, pan oedd hedfan yn syniad gwallgo’.
Y bobol ifanc fu’n canolbwyntio eleni ar y dechnoleg, tra bod yr holl grefftwyr â’r haneswyr yn gwneud y replica mor debyg â phosib i’r awyren wreiddiol.