Mae criw o aelodau aelwydydd yr Urdd yn Sir Benfro wedi addo “yr eisteddfod orau posib” yr wythnos hon – “er gwaetha’r glaw!”

Ar ôl perfformio eu neges o groeso am y tro cynta’ ar ddiwedd prifwyl yr Urdd yng Nglynllifon y llynedd, fe gafodd y criw eu cyfle ar lwyfan Cilwendeg heddiw hefyd.

Ac wedi dod oddi ar y llwyfan, roedden nhw’n teimlo’n “hapus ac yn gyffrous” o weld yr Eisteddfod wedi cyrraedd Sir Benfro… ac maen nhw’n edrych ymlaen at gael cysgu yn eu gwelyau eu hunain heno.