Galeri Caernarfon
Ddydd Sul fe fydd gwyddonwyr o Japan, India, America ac Ynysoedd y Falkland yn heidio i Gaernarfon ar gyfer cynhadledd ryngwladol yn y Galeri.
Byddan nhw’n trafod sut mae defnyddio cregyn, cwrelau ac esgyrn i astudio newidiadau mawr fel yr newid hinsawdd.
Gwyddonwyr o Brifysgol Bangor sy’n trefnu’r gynhadledd ac mae disgwyl gwyddonwyr o bob cwr o’r byd – gan gynnwys Japan, Awstralia, India, Ynysoedd y Falkland, Canada a’r UDA yn ogystal â rhai o bob rhan o Ewrop a’r DU – i ymgynyll yng Nghaernarfon.
Dyma’r trydydd cynhadledd o’i math gyda’r ddwy arall yn cael eu cynnal yn Florida yn 2007 ac yn yr Almaen yn 2010. Yn y gynhadledd ddiwethaf dair blynedd yn ôl, enillodd gwyddonwyr Bangor bleidlais i gynnal y gynhadledd yng Nghaernarfon yn wyneb cystadleuaeth gref gan rai o Ffrainc a Japan.
Cregyn Môr a Newid Hinsawdd
Mae’r testunau trafod yn cynnwys hinsawdd forol y gorffennol, bioleg, ecosystemau, pysgodfeydd ac archaeoleg.
Meddai Dr Paul Butler o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor: “Gan fod crynodiad carbon deuocsid yn atmosffer y ddaear bellach yn cyrraedd yr un lefelau ag a welwyd ddiwethaf tua 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gallwn ddefnyddio cregyn ffosilau o’r cyfnod hwnnw i ddarganfod yr effaith ar yr amgylchedd morol, a bydd hyn yn ein helpu i ragfynegi canlyniadau’r newid presennol yn yr hinsawdd sy’n ganlyniad i weithgarwch dyn.”
Trafod Tyrbinau Gwynt
Ychwanegodd Dr Paul Butler: “Gallwn wneud pethau eraill hefyd; er enghraifft gallwn ddefnyddio cregyn i fesur amodau dechreuol ar safleoedd projectau seilwaith morol megis tyrbinau gwynt a llanw, fel y gellir gweld eu heffeithiau ar yr amgylchedd lleol yn y tymor hir.
“Yn y gynhadledd byddwn yn cyfnewid syniadau, yn datblygu projectau cydweithredol newydd ac yn cynllunio’r ffordd ymlaen yn y maes. “
Cynhelir y 3edd Gynhadledd Ryngwladol mewn Sglerogronoleg (ISC2013)yn Galeri, Caernarfon, gogledd Cymru, DU rhwng dydd Sul 19 a dydd Mercher 22 Mai.
Bydd y sesiynau’n agored i’r cyhoedd, am £100 y diwrnod (£70 i fyfyrwyr PhD a £30 i israddedigion a myfyrwyr meistr). Dylid talu wrth y ddesg yn y dderbynfa.