Port Talbot
Mae dwy wefan newyddion o Gymru ymhlith nifer ym Mhrydain sy’n troi at fersiwn brint yn y misoedd diwethaf.
Fe fydd y Caerphilly Observer a’r Port Talbot Magnet yn cael eu cyhoeddi ar bapur am y tro cyntaf y mis hwn.
Dywed cyhoeddwyr y ddau bapur eu bod nhw’n ceisio llenwi bwlch yn y farchnad leol.
Derbyniodd y Caerphilly Observer grant datblygu gwledig gan Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili, ac fe fydd y papur yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos.
Dywed y perchnogion fod y wefan wedi bod yn denu hyd at 20,000 o ymwelwyr bob mis.
Fe fydd y Port Talbot Magnet yn cael ei gyhoeddi gan lenwi bwlch a gafodd ei adael wrth i’r Port Talbot Guardian ddod i ben yn 2009.
Roedd y papur hwnnw’n cael ei redeg gan gwmni Trinity Mirror.
Yn y misoedd diwethaf, mae Trinity Mirror wedi cael gwared ar 92 o swyddi.
Daeth wyth o newyddiadurwyr ynghyd yn 2009 i greu cynllun ar gyfer y Port Talbot Magnet, a’r golygydd fydd y newyddiadurwraig leol, Rachel Howells.
Caiff y papur hwn ei lansio fel menter gymunedol, lle bydd disgwyl i bobol leol gyfrannu straeon a chasglu gwybodaeth ar eu cyfer nhw.
Fe fydd gofyn hefyd iddyn nhw gyfrannu’n ariannol.
Ar draws Brydain gyfan, fe fydd papurau newydd yn cael eu lansio yn Dorset, Scarborough a Dyfnaint yn y misoedd nesaf.