Mae pedwar o’r pump diffoddwr tân a gafodd eu hanafu mewn damwain ffordd ddoe wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Roedd injan dân y criw o Blaenafon mewn damwain rhwng Blaenavon a Gofilon tua 10:20 fore ddoe.

Mae pedwar o’r diffoddwyr tân bellach wedi eu rhyddhau o’r ysbyty ond mae un dal yn derbyn triniaeth er ei fod mewn cyflwr sefydlog, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru .

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i’r digwyddiad ar hyn o bryd.

Mewn datganiad fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaeth yn darparu cefnogaeth i’r criw a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn a hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu negeseuon o gefnogaeth i’r criw ar ein gwefannau cyfryngau cymdeithasol.

“Bydd gorsaf dân Blaenafon yn parhau i ddarparu gwasanaeth gweithredol sy’n adlewyrchu eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad i’r gymuned leol.”