Mae gwasanaethau addysg a phlant a phobl ifanc Cyngor Blaenau Gwent yn parhau i fod yn “anfoddhaol” meddai adroddiad gan Estyn.
Yn 2011, rhoddwyd awdurdod addysg leol o dan fesurau arbennig wedi i’r corff arolygu ysgolion gyhoeddi adroddiad damniol oedd yn dweud bod methiannau rheoli systemig yn y sir. Cafodd pedwar comisiynydd eu penodi gan y Gweinidog Addysg Leighton Andrews i oruchwylio addysg o fewn yr awdurdod.
Er bod rhai gwelliannau erbyn hyn, mae sawl agwedd o’r gwasanaethau yn parhau i fod yn anfoddhaol, yn ôl Estyn.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- · Safonau cyrhaeddiad yn anfoddhaol, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd;
- · am y tair blynedd diwethaf, nid yw Blaenau Gwent wedi cyrraedd unrhyw feincnodau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrhaeddiad yn ôl yr hawl i brydau ysgol am ddim.
- · mae gwaharddiadau cyfnod penodol a nifer y diwrnodau sy’n cael eu colli oherwydd gwaharddiadau yn cynyddu;
Dywedodd yr adroddiad hefyd bod mentrau ar gyfer gwella ysgolion yn rhy ddarniog, nad yw’r arweinyddiaeth yn ysgogi gwelliannau a bod trefniadau ar gyfer diogelu ddim yn bodloni gofynion.
Gallu i wella yn anfoddhaol
Ond er bod yr adroddiad yn dweud bod gan yr awdurdod lleol ragolygon gwella anfoddhaol hefyd, maen nhw wedi sefydlu partneriaethau gydag awdurdodau lleol cyfagos i gryfhau eu gallu ac arbenigedd.
Mae Estyn wedi dweud eu bod nhw o’r farn y dylai’r awdurdod aros yn y categori mesurau arbennig am y tro ac mae disgwyl i’r awdurdod lleol lunio cynllun gweithredu i ddangos sut bydd yn mynd i’r afael â’r argymhellion o fewn 50 diwrnod gwaith o dderbyn yr adroddiad.
‘Ystyried ymyraethau eraill’
Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews: “Rwyf yn bryderus iawn o weld canfyddiadau Estyn. Mae’n annerbyniol bod yr awdurdod wedi methu unwaith eto i fynd i’r afael â’r materion gyda’r cyflymder a’r brys sydd ei angen. Mae’r methiannau hyn yn parhau i ddangos gwendidau difrifol yn y broses o reoli’r gwasanaethau addysg gan yr awdurdod.”
Dywedodd ei fod wedi penodi Comisiynydd Addysg i swydd lawn amser i gynorthwyo proses yr awdurdod o wella.
Ond ychwanegodd: “Mae gwendidau systematig o fewn yr awdurdod ac felly nid oes gennyf unrhyw hyder y bydd Blaenau Gwent yn datrys y problemau hyn ei hun, hyd yn oed gyda chymorth fy Nghomisiynydd. Rwyf bron ag ystyried ymyraethau eraill gan gynnwys yr opsiwn i uno’r gwasanaeth addysg gydag awdurdod lleol arall.
“Rwy’n cyfarfod â’r Comisiynydd ddydd Llun 20 Mai i gael ei barn a byddaf hefyd yn trafod y materion hyn â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Unwaith y byddaf wedi penderfynu pa newidiadau ddylai ddigwydd rhoddaf y newyddion diweddaraf yn llawn i aelodau’r Cynulliad.”
‘Methiannau ar lefel cenedlaethol’
Dywedodd Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru, ar y Post Cyntaf bore ma ei fod yn credu fod gan Lywodraeth Cymru gwestiynau i’w hateb am y sefyllfa ym Mlaenau Gwent.
“Mae methiannau wedi bod, nid yn unig ar lefel lleol ond ar lefel cenedlaethol hefyd,” meddai.
“Mae dwy flynedd o ymyrraeth gan lywodraeth ganolog wedi bod yn fethiant llwyr. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth symud nawr i amlinellu eu cynlluniau ar gyfer addysg ar lefel rhanbarthol a dwi’n gweld newidiadau mawr yn cael eu hawgrymu dros yr haf ym myd addysg.”