Mae pryderon newydd am ddyfodol swyddi yn y diwydiant dur yn y DU wedi i gwmni Tata Steel ddileu £1 biliwn oddi ar werth y cwmni yn Ewrop.

Mae’r cwmni, sy’n berchen ar ffatri ym Mhort Talbot yn ogystal â rhai yn Rotherham a Scunthorpe wedi rhoi bai ar yr economi yn Ewrop lle mae’r galw am ddur wedi gostwng tua thraean ers dechrau’r argyfwng economaidd.

Colli dros 600 o swyddi ym mis Tachwedd

Mae’r newydd yn destun pryder i staff y cwmni yn enwedig ar ôl i 500 golli eu swyddi yn eu gweithfeydd ym Mhort Talbot ym mis Tachwedd.

Yn ystod yr ail-strwythuro hwnnw, fe wnaeth y cwmni gau eu safleoedd yn Nhafarnau-bach ger Tredegar ac yn Cross Keys ger Caerffili gan arwain at golli 154 o swyddi pellach.

Mae Tata wedi rhybuddio y gall y cyfnod anodd barhau am y “tymor byr i ganolig”.

Dywedodd Paul Talbot o undeb Community sy’n cynrychioli llawer o weithwyr dur y DU: “Nid yw’n gyfrinach bod y diwydiant dur wedi bod yn mynd trwy gyfnod anodd.

“Does dim cwestiwn bod y datganiadau hyn yn peri pryder. Ac maen nhw’n peri pryder i’r gweithwyr sydd ar hyn o bryd yn dal i weld effaith y cyhoeddiad diwethaf.”