Yn dilyn y newyddion bod papur newydd Y Cyfnod yn y Bala wedi dod i ben, mae un o’r cyhoeddwyr wedi dweud wrth Golwg360 bod y wasg oedd yn ei brintio hefyd wedi dod i ben.

Cafodd Gwasg y Sir ei sefydlu yn 1862 ac mae wedi bod yn gyfrifol am brintio cylchgronau a phapurau newydd gan gynnwys Y Faner ac Y Cyfnod yn ystod ei hanes.

Dywedodd un o bartneriaid y wasg, Gwyn Evans, wrth Golwg 360 bod y wasg wedi dod i ben.

“Fe ddaeth y wasg i ben ddydd Sadwrn,” meddai. “Roedd ‘na anawsterau y tu hwnt i’n rheolaeth ni yn gyfrifol am y penderfyniad.”

Nid oedd am wneud sylw pellach ond ategodd bod “y drws ar agor i unrhyw un” fyddai eisiau trafod ailgynnau’r peiriannau yng Ngwasg y Sir.