Mae’r rheithgor mewn cwest i farwolaeth bachgen 11 oed fu farw ar ôl cwympo oddi ar wifren wib (zip wire) mewn parc antur ger Caernarfon wedi dod i’r casgliad bod ei farwolaeth yn ddamweiniol.
Bu farw Bailey Sumner o Blackpwl ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd ger Y Felinheli ar ôl cwympo tra’n cwblhau’r SwampFlyer wythnos yn unig ar ôl i’r wifren wib agor.
Clywodd y cwest yn Nolgellau ei fod e wedi’i gysylltu’n anghywir i’r cyfarpar diogelwch pan gwympodd dros gyfnod y Pasg 2011.
Yn gynharach heddiw fe glywodd y cwest gan arbenigwr iechyd a diogelwch. Dywedodd David Riley o’r Labordy Iechyd a Diogelwch ei fod wedi edrych ar y system oedd yn cael ei ddefnyddio yn y parc a’i fod yn credu mai camgymeriad dynol oedd i’w feio am y ddamwain.
Dywedodd y crwner bod yn rhaid cael rheolau pendant yn ymwneud a sefydlu atyniadau gwifren wib a’i bod yn bwriadu ysgrifennu at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ynglŷn â newid y rheolau er mwyn osgoi trychineb arall o’r fath.