Mae cwmni diogelwch G4S wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw wedi eu dewis i gynorthwyo Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn ystod Uwchgynhadledd yr G8 sy’n cael ei gynnal yn Lough Erne yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd y cwmni ynghanol helynt y llynedd am fethu a sicrhau digon o swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain dros yr haf, gan olygu bod plismyn ac aelodau o’r fyddin wedi gorfod camu mewn ar y funud olaf.
Mae’r cwmni wedi cyhoeddi y bydd 450 o’u staff yn cynorthwyo yn ystod yr G8.