Y difrod i do'r Llyfrgell
Bydd y Gweinidog Treftadaeth yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth heddiw lai nag wythnos ers i dân ddifrodi rhan o’r adeilad.

Bydd John Griffiths AC yn ymweld â’r Llyfrgell i weld y difrod a wnaed ac i ddechrau trafodaethau ar sut gall Llywodraeth Cymru roi cymorth.

Mae’r Gweinidog eisoes wedi ymrwymo i gefnogi’r Llyfrgell yn ystod y cyfnod hwn.

Mae rhai dogfennau o gasgliad hanesyddol y Llyfrgell a gafodd eu difrodi gan ddŵr ar ôl y tân ddydd Gwener ddiwethaf wedi cael eu symud i Rydychen fel bod tîm o arbenigwyr yn gallu eu hadfer.

Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddarn 30 metr o’r to gael ei ddifrodi ac achoswyd difrod difrifol i’r swyddfeydd oddi tano.

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth John Griffiths fod y Llyfrgell yn sefydliad cenedlaethol ac y byddai’n cynnal trafodaethau gyda’r Llyfrgell ar sut i ddelio â goblygiadau’r tân.

Wrth ymateb i gwestiwn brys gan Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones ddydd Mawrth, dywedodd John  Griffiths hi’n “rhy gynnar” i drafod cyfraniad ariannol gan y Llywodraeth tuag at gost y difrod.

Fe ail-agorodd y Llyfrgell ddydd Mawrth.