April Jones
Fe fydd y rheithgor yn achos April Jones yn ymweld â chartref y dyn sydd wedi ei gyhuddo o’i llofruddio heddiw.
Fe fydd y naw dynes a thri dyn yn teithio i fwthyn Mark Bridger, 47 oed, yng Ngheinws ger Machynlleth, lle cafwyd hyd i olion gwaed sy’n cyfateb i DNA’r ferch 5 oed. Roedd darnau o esgyrn dynol hefyd wedi eu darganfod yn y tŷ.
Mae disgwyl i’r rheithgor hefyd ymweld â safleoedd eraill gan gynnwys tref Machynlleth a stad Bryn y Gog lle mae’r erlyniad yn dweud y cafodd April ei chipio ger ei chartref.
Ddoe, clywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug bod Mark Bridger wedi gofyn i ferch ifanc arall fynd i’w dŷ ychydig oriau cyn i April Jones ddiflannu ar 1 Hydref y llynedd. Fe wrthododd y ferch.
Mae’r erlyniad yn honni bod cymhelliad rhywiol i lofruddiaeth April Jones a bod gan y diffynnydd ddiddordeb mewn pornograffi a llofruddiaethau plant.
Mae Mark Bridger yn gwadu cipio a llofruddio April a gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy waredu a’i chorff.
Mae disgwyl i’r achos barhau am chwe wythnos.