Mae’n debyg mai tân mewn biniau sbwriel oedd yn gyfrifol am y tân difrifol yn siop Poundstretcher yn Y Coed Duon yn Sir Caerffili bore ‘ma.

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw i Poundstretcher yn y dref tua 2yb y bore ma. Ar ôl cyrraedd y safle gwelwyd  bod biniau sbwriel ar dân ac roedd hyn wedi lledaenu i’r storfa a’r llawr cyntaf yng nghefn y siop.

Oherwydd difrifoldeb y tân cafodd stryd fawr Y Coed Duon ei chau a chafodd cyflenwad trydan i nifer o siopau eraill eu diffodd.

Bu tua 50 o ddiffoddwyr tan yn gweithio drwy’r nos er mwyn ceisio rheoli’r tân.

Dywedodd Lyndon Moreton o’r Gwasanaeth Tân ac Achub: “Mae’r criwiau tân wedi gweithio’n galed iawn mewn amodau llafurus ac wedi llwyddo i atal y tân rhag lledu i siopau cyfagos”.

“Daethpwyd â’r tân o dan reolaeth am 7.53yb a bydd criwiau tân yn parhau i fod yn bresennol drwy’r rhan fwyaf o’r dydd i ddiffodd y tân yn llawn”.

Ar hyn o bryd mae peiriannydd strwythurol yn asesu sefydlogrwydd yr adeilad ac mae cwmnïau trydan yn y broses o ynysu’r cyflenwad trydan i’r eiddo sy’n cael eu heffeithio yn  unig. Y gobaith yw y bydd y cyflenwad trydan yn ailgysylltu i weddill siopau’r stryd fawr erbyn canol y bore.

Mae achos y tân yn y biniau sbwriel ar hyn o bryd o dan ymchwiliad ond mae gan y Gwasanaeth Tân air o gyngor:  “Dylai pob bin sbwriel gael eu lleoli ychydig i ffwrdd o adeiladau ac nid yn uniongyrchol yn erbyn yr adeilad – bydd hyn yn helpu i atal tân rhag lledu os yw’r biniau’n cynnau.”