Ellie Simmonds
Mae’r nofwraig paralympaidd, Ellie Simmonds wedi cael ei dewis yng ngharfan Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Nofio Anabl y Byd.

Bydd y Pencampwriaethau’n cael eu cynnal yn Montreal o Awst 12-18.

Mae Ellie, sy’n enedigol o Ganolbarth Lloegr ond sy’n ymarfer yn y Pwll Nofio Cenedlaethol yn Abertawe, wedi ennill pedair medal aur yn y Gemau Paralympaidd.

Bydd hi’n mynd benben â’r Americanes, Victoria Arlen unwaith eto.

Cystadlodd y ddwy yn erbyn ei gilydd yn y Gemau Paralympaidd y llynedd, lle enillodd Ellie Simmonds y ras 400m dull rhydd.

Victoria Arlen enillodd y ras 100m yn y Gemau.